 
        
        
      
    
    Mae Porter’s Presents yn symud i ddwylo’r gymuned, lle y gall unrhyw un – cerddorion, hyrwyddwyr, cymdeithasau prifysgolion, a phobl greadigol – roi ei syniadau am ddigwyddiad ymlaen a dylunio’n calendr. Gan gynnig technegwyr sain ac asedion hyrwyddo a llogi ein llwyfan yn rhad ac am ddim, rydyn ni’n tynnu rhwystrau ariannol er mwyn rhoi’r cyfle i bawb lwyfannu eu syniadau.
 
        
        
      
    
    MAE’R BROSES YN SYML:
01.
Gwneud eich cais
CYFLWYNWCH EICH SYNIAD AM DDIGWYDDIAD GAN DDEFNYDDIO’N FFURFLEN.
02.
Adolygu’r cais
BYDD EIN TÎM YN ASESU’CH SYNIAD AC YN CYSYLLTU Â CHI.
GWEITHIWCH GYDA NI I RANNU’R NEWYDDION DA AC I GYNNAL DIGWYDDIAD GWYCH!
03.
Cael cymorth
04.
Hyrwyddo a Pherfformio
BYDD YR YMGEISWYR LLWYDDIANNUS YN CAEL ARWEINIAD CAM-WRTH-GAM A FYDD YN EU HELPU GYDA PHETHAU FEL LOGISTEG Y DIGWYDDIAD A DYLUNIO POSTERI.
BETH SYDD ANGEN I MI EI WYBOD?
Mae Porter’s yn lleoliad sy’n cynnal polisi mynediad rhad ac am ddim. Mae hyn yn golygu taw’r cyntaf i’r felin gaiff fynediad, a bod dim ffioedd yn cael eu codi wrth y drws. Unwaith i ni gyrraedd terfyn y lleoliad o ran niferoedd, ni fydd unrhyw un arall yn gallu ymuno. Os oes angen rhestr o fynychwyr arbennig arnoch, bydd yn rhaid i’r lleoliad ei chymeradwyo ymlaen llaw. Mae’n rhaid i bob digwyddiad gydymffurfio â pholisïau ein lleoliad, yr amserlen ar gyfer profi’r sain, a’r canllawiau ar gyfer hyrwyddo. I gael yr holl fanylion, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer Digwyddiadau a’n Telerau ac Amodau.
PAM YDYCH CHI’N DEFNYDDIO’R BROSES HON NAWR?
Achos bod y digwyddiadau gorau yn dod at ei gilydd wrth i ni gydweithio! Rydyn ni am i Porter’s fod yn lleoliad sy’n teimlo fel eich lleoliad chi – man sy’n hybu creadigrwydd ac yn rhoi’r cyfle i bawb lwyfannu rhywbeth arbennig. Gan agor ein calendr i chi, gallwn gynrychioli cymaint o bobl wahanol â phosibl, llwyfannu mathau gwahanol o ddigwyddiadau, a sicrhau bod lle i bawb berfformio a rhannu eu llais.
AR GYFER PWY YW HWN
Mae Porter’s Presents ar gyfer pawb – cerddorion, hyrwyddwyr, pobl greadigol, cymdeithasau prifysgolion, ac unrhyw un sydd â syniad am ddigwyddiad gwych. P’un ai’ch bod yn artist newydd yn edrych am eich gìg cyntaf, artist sefydlog sydd am wneud rhywbeth gwahanol, neu’n hyrwyddwr sy’n curadu rhestr o berfformwyr, mae’r broses hon wedi’i chynllunio i fod yn gynhwysol ac yn agored i bawb. Os ydych yn dwli ar ddigwyddiadau byw, hoffem glywed gennych chi!
THIS IOCÊ, IAWN, OND BETH OS YDW I ‘MOND EISIAU PERFFORMIO?
Dim probs! Os oes well gennych ganolbwyntio ar eich perfformiad a bod rhywun arall yn gwneud y gwaith cynllunio, gallwch chi weithio gydag un o’n hyrwyddwyr dibynadwy. Mae’r hyrwyddwyr hyn yn delio â mathau penodol o ddigwyddiadau ac yn curadu rhestrau o berfformwyr ar gyfer digwyddiadau Porter’s Presents. Ewch i’n tudalen “Perform” i gael rhagor o wybodaeth, neu gallwch gysylltu â nhw’n uniongyrchol.
 
        
        
      
    
     
                         
            
              
            
            
          
               
            
              
            
            
          
               
            
              
            
            
          
               
            
              
            
            
          
               
            
              
            
            
          
               
            
              
            
            
          
               
            
              
            
            
          
               
            
              
            
            
          
            